SL(5)471 - Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu’r cynnydd yn y lluosydd ardrethi annomestig yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21. Mae'n adlewyrchu'r defnydd o'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn hytrach na'r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) i gyfrifo'r lluosydd.

O dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, dylid cyfrifo'r cynnydd blynyddol yn y lluosydd gan ddefnyddio'r ffigur RPI ar gyfer y mis Medi cyn y flwyddyn ariannol y mae'r lluosydd yn berthnasol iddi. Ar gyfer 2020-21, y ffigur RPI fyddai 291.0.

Mae'r lluosydd yn cael ei gymhwyso i werth ardrethol pob eiddo annomestig i gyfrifo ei fil ardrethi annomestig. Mae'r Gorchymyn yn defnyddio’r ffigur CPI (289.0) yn lle'r ffigur RPI (291.0). Mae hyn yn golygu cynnydd llai yn y biliau ardrethi a fydd i’w talu yn 2020-21 gan fusnesau a pherchnogion eiddo annomestig eraill nag a delid pe bai’r ffigur RPI wedi cael ei ddefnyddio.

Gweithdrefn

Gweithdrefn "gwneud cadarnhaol".

Mae hyn yn golygu y gall Gweinidogion Cymru wneud y Gorchymyn heb gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond nid yw'r Gorchymyn yn dod i rym oni bai bod y Cynulliad yn ei gymeradwyo cyn i'r Cynulliad gymeradwyo adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau 1 Ebrill 2020.

Disgwylir i'r Cynulliad drafod adroddiad cyllid llywodraeth leol ar 10 Rhagfyr 2019.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

Nodwn:

(a)     bwysigrwydd y Gorchymyn hwn a'r rhan hanfodol y mae'n ei chwarae o ran cyfrifo'r cyllid a fydd ar gael o dan setliadau refeniw blynyddol llywodraeth leol, a

(b)    y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ffigur is y Mynegai Prisiau Defnyddwyr fel rhan o’r gwaith cyfrifo biliau ardrethu annomestig, yn hytrach na ffigur diofyn ( ac uwch) y Mynegai Prisiau Manwerthu (sy'n adlewyrchu dull Llywodraeth Cymru yn y Gorchymyn cyfatebol o 2018).

Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

Dim.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

20 Tachwedd 2019